Llond gwlad o eiriau
Mae Cymru’n wlad sy’n ymhyfrydu mewn geiriau.
Ysgrifennu
Gyda fy nghefndir ym myd newyddiaduraeth a chyfathrebu, mae llunio geiriau sy'n gallu perswadio a dylanwadu yn dod yn rhwydd imi. Gallaf ysgrifennu ar gyfer pob math o ddibenion a phob cynulleidfa yr ydych am ei thargedu gyda'ch gwasanaeth neu gynnyrch.
Golygu-testun
Mae gen i lygad graff o ran gweld be sy'n bwysig a be sy'n berthnasol o fewn unrhyw ddeunydd ysgrifenedig. Gan osod y geiriau mewn trefn er mwyn blaenoriaethu'r elfennau hynny. Gallaf olygu unrhyw destun sydd angen ei newid,ei fireinio neu ei fyrhau.
Brandio / Cyflwyno
Gallaf greu enwau a sloganau gwreiddiol ar gyfer eich gwasanaethau neu gynnyrch. Gallaf hefyd gynorthwyo gydag unrhyw gyflwyniadau sydd eu hangen.
Cyfieithu
Gallaf gyfieithu unrhyw destun, o'r Saesneg i'r Gymraeg neu'r Gymraeg i'r Saesneg. Gallaf hefyd gynnig cymorth os hoffech gyflwyno mwy o ddwyieithrwydd o fewn eich sefyllfa benodol.
Pwy ydw i
Aled, saer geiriau naturiol yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn gweithio o hen brifddinas yr inc, sef Caernarfon.
Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad yn y byd newyddiadurol, cysylltiadau cyhoeddus, tiwtora a Chyfathrebu.
Dwi yma i gynnig y 3 P ar gyfer eich geiriau:
Pwer, Perswad a Phersenoliaeth.
