Artaith Feddyliol y Cloi

Mae’n eironig iawn ar un wedd ein bod yn nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl eleni yr wythnos hon a ninnau wedi ein cloi yn ein cartrefi ers wythnosau lawer

Holl bwrpas arferol yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.

Er y gwaith da a wneir, wythnos sy’n cael ei anwybyddu gan y rhan fwyaf ohonom ydi’r wythnos yma gan amlaf.

Ond mae profiadau’r wythnosau olaf wedi newid pethau yn llwyr. Mae’r cloi a’r ynysu cymdeithasol wedi creu carchar meddyliol i bawb ohonom.

Be sy’n ddiddorol yw’r adroddiadau ynghylch pobol sydd erioed o’r blaen wedi profi anhwylderau meddyliol yn adrodd am eu sioc a’u harswyd wrth ddod ar eu traws bellach

Yr wythnos hon, cafwyd adroddiad gan y PFA(Cymdeithas Chwaraewyr Peldroed) yn adrodd am y pryder a’r gofid sy’n rhemp ymhlith eu haelodau yn ystod y segurdod mawr.

Mae’n anodd gallu uniaethu’n llwyr gyda pheldroedwyr sydd ar ffurlo, ac yn parhau i dderbyn cyflogau sydd y tu hwnt i ddirnadaeth y rhan fwyaf ohonom.

Os mai colli’r sylw a’r cyhoeddusrwydd y mae’r cicwyr gwynt, colli’r cysylltiadau dynol ydan ni wrth fod yn sownd yn ein cartrefi.

Colli’r pleserau bach dyddiol yna sy’n gwneud bywyd yn werth i fyw-gweld pobol, sgwrsio hefo pobol, a’r ymwneud bychain hynny gyda phobol wahanol pob dydd sy’n cynnig lliw a phatrwm i’n bywydau beunyddiol.

Mae cael ein hamddifadu o’r cyswllt dynol anhepgor hwn yn annaturiol ac yn annynol bron.

Efallai nad ydym wedi llwyr sylweddoli pa mor draumatic ydi effaith hyn ar bawb ohonom. Does ryfedd bod sawl arbenigwr yn rhybuddio y daw pandemic arall i’n plith ni sef ton ar ol ton o broblemau iechyd meddyliol ymhlith pobol o bob oed cyn bo hir.

Does neb a wadu difrifoldeb covid 19 ar un ystyr. Mae’r marwolaethau erchyll yn y cartrefi gofal wedi dangos hynny yn glir.

Ond mae mwy a mwy yn dechrau gofyn oedd angen cau ein cymdeithas a’n heconomi gyfan i lawr i’r ffasiwn raddau, yn enwedig o gofio mai 0.0001% ydi’r gyfradd farwolaeth yn gyffredinol, a 98% o’r rhai sy’n dal yr haint yn gwella ohono.

A’r model gyfrifiadurol a luniwyd ar gyfer y cloi, oedd yn proffwydo hyd at 500,000 o farwolaethau o’r haint ym Mhrydain wedi colli pob hygrededd, wrth inni ddysgu ei fld wei ei seilio ar raglen gofio 20 mlwydd oed.

A lluniwr y model ei hun wrth gwrs, yr Athro Neil Ferguson wedi tanseilio ei fodel ei hun a’i ddifrifoldeb trwy wahodd ei gariad i deithio ar draws Llundain ar amryfal achlysuron i ddod i’w weld.

Yr union ddyn oedd yn ein rhybuddio ar boennein bywud i gadw at y rheolau ‘ynysu cymdeithasol’!.

Mae’r hanes hwn wedi ychwanegu at y dryswch cyffredinol a’r chwarae gyda’n meddyliau sydd wedi bod mor rhemp dros y cyfnod hwn.

Tybed a welwn ni dwf yn yr ‘economi iechyd meddwl’ wedi hyn oll? Gyda mwy o sylw ac adnoddau yn cael ei gyfeirio i’r maes hwn.

Ond nid mater i asiantaethau a mudiadau ydi hyn. Yn hytrach, rhywbeth i unigolion eu hunain i’w weithredu eu hunain, yn eu ffordd eu hunain.

Maen nhw’n dweud bod pob carcharor ar goll braidd wrth dderbyn ei ryddid. Cam wrth gam, yn ara bach mae dod nol iddi.

Ac mae yna gerrig camu tebyg sydd angen i bawb ohonom eu croesi yn y cyfnod nesaf hwn.

Eglwys Cwyfan Ynys Môn machlud
Y Cerrig camu y mae’n rhaid eu croesi i’r gymdeithas newydd

Gyda hyn, mae dyn yn gobeithio y cawn ein rhyddhau o’r carchar meddyliol hwn.

Ond fe gymer hi amser go lew inni gael trefn ar ein meddyliau wedi bod trwy’r ffasiwn drin.