Diflaniad iaith ar yr Ynysoedd

Ynys Skye ble mae’r Gaeleg yn prysur ddiflannu fel iaith fyw

MAE adroddiad brawychus ar gyflwr Gaeleg yn ei chadarnleoedd olaf yn Yr Alban yn rybudd taer i ninnau yma yng Nghymru.

Yn ol adroddiad yr Athro Conchur O’Giollagain o’r Iwerddon, bydd Gaeleg yn debyg o ddiflannu fel iaith gymunedol ar Ynysoedd yr Heledd( Yr Hebrides) o fewn y ddegawd nesaf.

Dyna ganlyniad anochel y diffyg defnydd cymdeithasol o’r iaith a’r ffaith fod y broses o drosglwyddo’r iaith yn llwyddiannus o’r genhedlaeth hyn i’r genhedlaeth iau wedi breuo i’r ffasiwn raddau.

Roedd yr astudiaeth wedi ei chynnal mewn dwy ardal lle bo’r iaith yn parhau i gael ei siarad fel iaith lafar, sef Staffin ar Ynys Skye ac Ynys Tirree yn Argyll a Bute.

Iaith yn methu ag adnewyddu ei hun

Ond hyd yn oed yn yr ardaloedd hyn, ymddengys nad oes gan yr iaith yr adnoddau i adnewyddu ei hun bellach, gyda’r ganran sy’n ei siarad wedi dirywio o 80% yn 1981 i 52% erbyn 2011.

A’r difaterwch a’r diffyg diddordeb ynddi ymhlith y genhedlaeth ifanc- gyda dim ond 1.5% o bobol ifanc yno yn ei siarad ymhlith eu cyfoedion- yn golygu bod y dirywiad ieithyddol llawer gwaeth mewn difri nag y mae’r ffigyrau plaen yn eu awgrymu.

Dywed yr Athro O’Giollogain, sy’n arbenigwr yn y maes sosio-ieithyddiaeth, bod realiti’r sefyllfa yn dangos nad yw camau tocenistaidd fel cael arwyddion Gaeleg yn eu lle yn cyflawni fawr ddim mewn gwirionedd.

A hynny er gwaethaf yr ewyllys da sy’n cael ei ddangos tuag at yr Aeleg gyda’r arwyddion newydd sgleiniog yn yr iaith sydd wedi eu codi ar hyd a lled yr Alban yn ddiweddar gan lywodraeth yr SNP.

“Mae’n gwbwl amlwg bod iaith yn goroesi ac yn ffynnu mewn cymunedau o siaradwyr yn hytrach nag ar lefel sefydliadol/symbolaidd diwreiddiau” meddai’r athro.

Gaeleg angen gofod daearyddol pendant

Yn ei gasgliadau, geilw’r Athro am sefydlu Ymddiriedolaeth Gaeleg Gymunedol ar yr Ynys ar frys, a ddylai weithio hyd braich o’r Bord Ni Gaeleg swyddogol, gyda chynrychiolwyr lleol yn gweithredu fel yr ymddiriedolwyr.

Ymhlith ei argymhellion y mae:

*Cynnig cymhelliant ariannol I deuluoedd I ddefnyddio’r iaith ar yr aelwyd

*Mwy o weithgareddau i’r ifanc trwy gyfrwng yr iaith

* Mwy o ddarpariaeth adloniadol I bobl ifanc trwy’r Aeleg

*Yr Ymddiriedolaeth i hyrwyddo cyfleon economaidd newydd i siaradwyr yr iaith

*Darparu cyngor strategol i’r Ymddiriedolaeth ynghylch hyrwyddo’r iaith

Mae adroddiad yr Athro ar y sefyllfa yn Ynysoedd Yr Heledd yn ymdebygu i’r gwaith y mae wed’i wneud yn y Gaeltacht yn Iwerddon, sydd hefyd yn dangos y diffyg trosglwyddiad ieithyddol rhwng y cenhedlaethau a’r dirywiad yn y defnydd o’r iaith ar lefel gymunedol.

Tebyg i’r sefyllfa yn y Gaeltacht yn Iwerddon

Be’ sydd gan yr adroddiad hwn i’w ddysgu i ni yma yng Nghymru felly?

Wel, mae’n rybudd ynghylch pa mor ddychrynllyd o hawdd y gall iaith leiafrifol ddiflannu o’r tir, hyd yn oed yn ei chadarnleoedd traddodiadol.

Ac yn pwysleisio unwaith yn rhagor nad oes unrhyw ddiben i ddefnydd sefydliadol/symbolaidd o iaith heb fod gan yr iaith honno gymunedau o siaradwyr sy’n gallu rhoi ystyr i’r statws sefydiadol/symbolaidd a roir iddi.

Dylai hynny ein perswadio o’r newydd nad oes yr un dim pwysicach yn y frwydr ieithyddol yng Nghymru na chynnal y gofod daearyddol hwnnw i’r iaith y sonia Conchur O’Gallogain amdano.

Angen sianelu egnion ac adnoddau i’r ardaloedd Cymraeg

Golyga hynny i bob pwrpas sianelu adnoddau ac egnion i’r ardaloedd Cymraeg sy’n weddill. A’u cynnal a’u gwarchod ar boen ein bywydau.

Neges amserol iawn o gofio am y cynllun i godi pentref gwyliau ar Lannau’r Fenai ar hen safle Ferodo ger Caernarfon.

Dyma’r ardal Gymreiciaf yng Nghymru heddiw, gyda 85% yn siarad yr iaith yn yr ardal.

Coron Cymreictod Cymru i bob pwrpas.

Nid Cymru fydd Cymru a’i choron dan draed

Ond coron all gael ei chipio oddi arnom mor rhwydd fel y dengys esiamplau diweddar Yr Alban ac Iwerddon.

Ac os gwyddom ni un peth o brofiadau’r blynyddoedd diwethaf, fe wyddom fod twristiaeth o’r math a gynigir ar gyfer “Gwel y Fenai” yn prysuro’r broses o seisnigo ardal mewn modd cyflymach na’r un dim bron,

Mae angen bod yn effro felly i brofiadau ein cefndryd Celtaidd a’r dystiolaeth o’n cwmpas ni yma yng Nghymru gan gofio geiriau’r hen gan: “Nid Cymru fydd Cymru a’i choron dan draed”,