DYDD OWAIN GLYNDWR

HEDDIW, (Medi 16eg),rydan ni’n dathlu dydd Owain Glyndwr, sef y Tywysog Cymreig olaf.

Traddodiad reit ddiweddar ydi dathlu’r diwrnod hwn yng Nghymru, ond mae’r arfer wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf.

PAM Y DIWRNOD HWN FELLY?

Dyma’r diwrnod y casglodd Owain Glyndwr, Arglwydd Glyn Dyfrdwy, ger Corwen ei deulu a’i gefnogwyr at ei gilydd yn ei gartref yn Sycharth, i’w gyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru, yn y flwyddyn 1400.

Roedd tua 300 o bobl yn Sycharth y diwrnod hwnnw i wylio gweithred dewr a mentrus iawn ar sawl ystyr.

Roedd Cymru wedi ei choncro ers canrif, a’r rhan fwyaf wedi gorfod dod i arfer hefo’r drefn newydd o dan goron Lloegr-gan gynnwys Owain ei hun a fu’n gwasanaethu fel milwr gyda’r goron yn yr Alban a Ffrainc am gyfnodau.

PAM GALW EI HUN YN DYWYSOG CYMRU?

Wedi eu hysgrifennu ar ei sel swyddogol, oedd y geiriau hyn ‘Owain, trwy ras Duw,, Tywysog Cymru

Roedd gan Owain Glyndwr bedigri cryf iawn i’r teitl hwn oherwydd ei fod yn dod o linell Tywysogion Powys a’r Deheubarth.

Ac roedd sawl ffactor wedi dod ynghyd i agor y drws iddo hawlio ei deitl fel Tywysog Cymru ar y cyfnod arbennig hwn.

Gan gynnwys gwendid a dryswch yn Llundain, a chyfnod o broblemau economaidd mawr trwy’r wlad a llawer o brotestiadau yn eu sgil.

Ac wrth gwrs, roedd y syniad sylfaenol bod Cymru’n genedl yn dal yn gryf yn y tir, a’r beirdd teithiol yn cyflwyno’r neges hon ar hyd a lled y wlad.

Nhw oedd dynion papur newydd y cyfnod mewn ffordd. Ac yn hoff iawn o atgoffa pawb bod ‘Mab Darogan’ arbennig bownd o gyrraedd unrhyw funud i ryddhau’r Cymry.

Un ffaith ddiddorol i’w chofio am y cyfnod hwn ydi bod poblogaeth Cymru yn rhyfeddol o fach(o’i gymharu gyda heddiw, gyda’i gyfanswn o 3 miliwn).

Mae’n debyg mai 200,000 oedd y boblogaeth.(sef tua 5% o ffigwr heddiw) gyda tua 95% yn siarad Cymraeg.

BE’ YDI’R STORI FELLY?

Lansiodd Owain Glyndwr ei ymgyrch i adfer annibyniaeth Cymru gyda chyfres o ymosodiadau ar drefi megis Rhuthun, Rhuddlan, Dinbych a Fflint-lle roedd coron Lloegr wed gosod eu pobol eu hunain mewn grym yno.

Parodd rhyfel ‘guerilla’ trwy Gymru am ddeng mlynedd, gyda chyfnodau ar i fyny ac i lawr wrth i’r sefyllfa newid o ardal i ardal.

Ond roedd y ffaith i’r rhyfel fynd ymlaen am ddegawd yn brawf o’r gefnogaeth oedd iddo yn y cyfnod.

Diflannodd Owain ei hun o’r llwyfan wedi iddi ddod yn amlwg nad oedd modd trechu grym coron Lloegr yn y pendraw(tua 1409) . Cafodd o erioed ei fradychu er fod brenin Lloegr wedi cynnig gwobr hael am ei ffindio.

Mae yna ansicrwydd o hyd ble’n union cafodd o’i gladdu, ond mae peth tystiolaeth mai yng nghartref ei ferch, yn swydd Henffordd y digwyddodd hynny.

BE’ OEDD YR UCHAFBWYNTIAU?

Roedd tri prif uchafbwynt:

i) Y Seneddau cenedlaethol a gafodd eu galw yn Harlech a Machynlleth o 1404 ymlaen. Gyda dau gynrychiolydd o bob ardal yn cael eu galw ynghyd yno.

ii) Y Cytundeb Tridarn-gyda’r bwriad o rannu Prydain yn dair rhan((Cymru i Glyndwr, gan gynnwys Amwythig a Chroesoswallt), gogledd Lloegr i deulu’r Percys a de Lloegr i Edmund Mortimer.

iii) Y Llythyr enwog yn apelio ar i’r Pab yn Avignon gydnabod hawl Cymru i’w rhyddid cenedlaethol(Llythyr Pennal).

YDI HYN YN BERTHNASOL I NI HEDDIW?

Mae hyn dros 600 mlynedd yn ol. Be sy ganddo fo i ddweud wrth bobol Cymru heddiw?

Cwestiwn digon teg. Mae Cymru heddiw yn wlad hollol wahanol wrth gwrs. A’r Cymry eu hunain yn hollol wahanol hefyd i raddau.

Ond falle nid y brwydrau gwahanol a stori’r rhyfel ei hun sy’n bwysig inni gofio fel cenedl heddiw.

Yn hytrach, cofio’r ‘maniffesto’ ar gyfer Cymru well oedd gan Owain Glyndwr yr ydan ni ar y diwrnod hwn, Medi 16..

Gan ddathlu’r ffaith fod rhai o’i brif syniadau wedi dod yn wir erbyn heddiw, e.e dwy brifysgol i Gymru, Eglwys i Gymru, ac wrth gwrs, Senedd i Gymru.

A’i fod yn parhau efallai fel y symbol cryfaf un o freuddwyd y Cymry ar hyd y canrifoedd bod modd iddyn nhw, ryw ddydd, gael yr hawl i fyw mewn gwlad annibynnol.