Yr Artaith yn yr Ardd

CAFWYD enghraifft pellach o natur llwythol ac emosiynol gwleidyddiaeth gyfoes dros y diwrnodau diwethaf.

A hynny yn saga Dominic Cummings, prif gynghorydd Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, a holl hanes ei ‘daith i Durham. ‘

Ar y naill ochor, roedd y chwith yn udo’n groch am ei waed ac am iddo ymddiswyddo’n syth am dorri rheolau y cloi.

Ar y pegwn arall, roedd y dde hwythau yr un mor ddi-ildio, yn mynnu bod rhaid i Boris Johnson lynu wrtho doed a ddelo.

Gyda’r dyn rhesymol rhwng y ddau begwn wedyn yn pwyso a mesur y dystiolaeth gan feddwl, mm, tybed fyddwn i wedi gwneud yr un peth yn union pe bawn i’n rhiant i blentyn bach awtistaidd 4 oed, yn poeni y gallwn i a fy ngwraig fod mor sal gyda covid 19 nad oedd modd gofalu amdano.

Tybed a fyddwn i wedi meddwl imi fy hun-onid y peth callaf i’w wneud fyddai ceisio lloches a chefnogaeth deuluol rhag iddi ddod i hynny? Hyd yn oed os oedd hynny’n golygu taith 200 milltir a mwy mewn car.

Fe ddatblygodd y stori wedyn i lefel bron yn swreal ddoe wrth i Dominic Cummings wynebu ei arteithwyr yn y cyfryngau mewn cynhadledd i’r wasg ynghylch y mater yng ngardd Stryd Downing.

Roedd y cyfryngau wedi bod yn ei hela trwy gydol y penwythnos gan gynnwys ymgynnull fel gwenyn rownd pot jam y tu allan i’w gartref ar y Sul.

Oedd ychydig yn eironig o gofio mai cwrso stori am fethiant i gadw at egwyddor ‘ynysu cymdeithasol’ oeddent hwy!

Roedd y gynhadledd hon yn ddychrynllyd ac yn chwerthinllyd am yn ail. Dychrynllyd, gan ei bod mwy fel achos llys yn hytrach na chyfweliad a bod yn onest.

Gyda phob un o gynrychiolwyr y cyfryngau yn cymryd eu tro i holi Cummings, fel petaent yn gyw far-gyfreithwyr yn gobeithio am eu cyfle mawr i hoelio’r diffinydd.

Chwerthinllyd wedyn oherwydd eu hymddygiad hunan-bwysig a thrahaus gyda’u holi a hynny wedi ei gyplysu gydag ail-adrodd yr un cwestiynau yn robotaidd, un ar ol y llall.

A heb lanio’r un ergyd sylweddol mewn difri yn y 40 munud o arteithio llafar. Roedd y wen fach chwareus ar wyneb Dominic Cummings ar y diwedd yn awgrymu ei fod ef o leia’n tybio iddo ddod trwyddi’n ddianaf.

Felly be mae dyn i’w wneud o’r holl saga ddryslyd hon?

Mae’n bosib dadlau bod dau beth sy’n ymddangos yn gwbwl groes i’w gilydd yn gallu bod yn wir ar yr un pryd.

Wedi gwrando ar ddatganiad manwl Dominic Cummings, mae’n bosib credu ei fod wedi defnyddio ei ddisgresiwn, o fewn y rheoliadau, i wneud penderfyniad unigol anodd, er mwyn gwarchod bywyd ei blentyn bach.

Ar yr un pryd, mae’n bosib credu hefyd bod polisi y cloi (polisi y bu Cummings ei hun yn rhan o’i ddyfeisio) bellach yn rhacs jibiders erbyn hyn, os nad felly ers rhai wythnosau mewn difri.

Yn wir, roedd pol piniwn yr wythnos hon fel petai’n cadarnhau hyn oll, gyda 35% o’r rhai a holwyd yn cyfaddef eu bod wedi torri rheolau’r cloi.

Mae hynny’n awgrymu mai methiant a chamgymeriad oedd cyflwyno cloi mor holl gynhwysol ar gymdeithas gyfan mewn gwirionedd.

Am sawl rheswm, gan gynnwys y ffaith nad oedd dichon ei weithredu a’i fonitro’n effeithiol.

Bydd rhaid i’r llywodraeth wynebu cwestiynau difrifol iawn am y penderfyniad hwn a chamgymeriadau eraill maes o law. Cwestiynau y bydd rhaid i Cummings a Johnson eu hwynebu a’u hateb yn llawn.

Tybed hefyd nad yw’r holl saga wedi dwyn i’r wyneb ryw duedd fach digon piwritanaidd ac awdurdodol ymhlith ein cymdeithas gyfoes.Math o obsesiwn newydd ynghylch pwy sy’n ‘cadw’r’ rheolau a phwy sy’n eu ‘torri’.

Datblygiad ddigon sinistr yn ei ffordd ei hun gan einfod yn arwain at raniad pellach mewn cymdeithas sy’n ddigon ymranus yn barod.

Efallai fod geiriau’r Dalai Lama yn wers inni gyd gyda hyn o ran cadw perspectif ar bethau.

‘Make sure you learn all the rules very well- so that you can break them creatively’ meddai gyda’i natur gellweirus arferol.

Falle mai ysgafnder fel hyn sydd ei angen i gadw pawb rhag yr ysgyrnygu pegynnol sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd.

Dominic Cummings yn cael ei greoesholi gan y wasg